Constructionskills home
Cynlluniau Cerdyn | Iechyd a Diogelwch | Dysgu a Hyfforddi | Cwricwlwm a Gyrfaoedd | Eich Cefnogi Chi | News | Publications
Home > Cymraeg > Polisi Preifatrwydd >
POLISI PREIFATRWYDD

Datganiad Preifatrwydd

Mae defnyddio’r wefan hon yn golygu eich bod yn derbyn y Datganiad Preifatrwydd hwn. Os nad ydych yn fodlon derbyn y Datganiad Preifatrwydd hwn, gadewch y wefan hon ar unwaith.

Mae’r datganiad preifatrwydd hwn yn llywodraethu’r wefan yn www.cskills.org ac unrhyw wefan arall sydd gan SgiliauAdeiladu. Nid yw’r datganiad hwn yn cynnwys dolenni ar y wefan hon i wefannau na chynhelir gan SgiliauAdeiladu.

Diogelu Data

Nid yw gwefan SgiliauAdeiladu’n cadw na chipio gwybodaeth bersonol o ddefnydd cyffredinol o’r wefan, ond mae’n mewngofnodi cyfeiriad IP defnyddwyr a adnabydda’r serfiwr gwe’n awtomatig. Pan gasglwn wybodaeth bersonol ynghylch defnyddwyr y wefan, megis yn ystod cystadlaethau neu er mwyn darparu newyddlenni electronig, byddwn yn cynnig amodau penodol am ddefnyddio’r wybodaeth hon ar adeg ei chasglu.

Cwcis

Pan ewch i’r wefan hon, rydyn ni’n rhoi ‘Cwci’ i’ch cyfrifiadur.

Darnau bach o wybodaeth yw cwcis a gedwir gan eich porwr ar yriant caled eich cyfrifiadur. Nid yw ein cwcis yn cynnwys unrhyw ddata personol. Mae’r rhan fwyaf o borwyr gwe’n derbyn cwcis yn awtomatig, ond fel arfer gallwch newid eich porwr i atal hynny. Hyd yn oed heb gwci gallwch ddefnyddio’n gwefan, yn amodol ar y sylwadau isod. Pan fydd gwefan SgiliauAdeiladu’n gofyn i ddefnyddwyr fewngofnodi i fannau gwahanol o’r safle, bydd cwci’n nodi’r weithred hon yn cael ei roi ar eich peiriant. Cwcis sesiwn yw’r rhain a dynnir o’ch cyfrifiadur ar ôl i’r sesiwn neu’r cyfnod mewngofnodi ddod i ben. Os byddwch yn analluogi cwcis sesiwn, ni allwch fewngofnodi i rai mannau o wefan SgiliauAdeiladu.

Ewch i Interactive Advertising Bureau UK i ddarganfod sut i analluogi a dileu cwcis.

Trydydd Partïon

Nid yw SgiliauAdeiladu’n gwerthu, masnachu na rhentu’ch gwybodaeth bersonol, a gedwir o ddefnyddio’r wefan, i bobl eraill. Gall SgiliauAdeiladu roi ystadegau cydgasgledig am ein gwerthiant, ein patrymau traffig a gwybodaeth sy’n gysylltiedig â’r safle i werthwyr trydydd parti parchus, ond ni fydd yr ystadegau hyn yn cynnwys data personol. Ni ellir olrhain unrhyw ddarn o wybodaeth yn ôl i unigolyn.

Newidiadau i’r Datganiad Preifatrwydd

Os penderfynwn newid ein polisi preifatrwydd, postiwn y newidiadau hynny ar y dudalen hon fel eich bod o hyd yn ymwybodol o’r wybodaeth rydyn ni’n ei chasglu, sut rydyn ni’n ei defnyddio ac o dan ba amgylchiadau rydyn ni’n ei dadlennu.

Os bydd gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â’r Ganolfan Wybodaeth:

E-bost:

information.centre@cskills.org

Post:

Information Centre
ConstructionSkills
Bircham Newton
King's Lynn
Norfolk PE31 6RH

Contact us
The Levy

About us

Site map

print page

Print this page



Telerau ac Amodau

|

Polisi Preifatrwydd

|

Hygrchedd

|

Cysylltwch a ni

|

English

These pages have been translated by - TROSOL - an approved Welsh language translation agency.

CITB-ConstructionSkills is a Registered Charity (Registration Number 264289)